English Deutsch Slovensky Cymraeg

Teithio

Gallwch gyrraedd Ždiar yn y car neu fws o'r dwyrain (Poprad / Kežmarok) neu o'r gorllewin (Podspády / Lysá Poľana / Zakopane / Gwlad Pwyl). Os ydych yn cyrraedd ar fws o gyfeiriad Poprad/ y Tatry Uchel, yr arosfan fws agosaf yw'r trydydd yn y pentref (Galéria). Mae arosfan ar y brif ffordd (67) yn ymyl y siop gyntaf yn y pentref, tua 50m heibio i'r ffordd sy'n arwain at Antošovský Vrch. Dyma lle byddwn ni gan amlaf yn cyfarfod â'n hymwelwyr sydd yn cyrraedd mewn car, gan fod y ffordd sydd yn arwain at y ty yn gallu creu dryswch y try cyntaf. Mae Zrub Zuzana (ty rhif 43) 1.2km o'r gyffordd ar y prif hewl a gellir cyrraedd ar droed mewn 15-20 munud. Gellir parcio wrth y ty, ond yn y gaeaf ac mewn tywydd garw byddem yn argymell parcio 200m oddi tanodd ger ty ein cymdogion.

Mae'r orsaf drên agosaf yn Poprad, gyda gwasanaeth rheolaidd o Bratislava, Kosice ac hyd yn oed ymhellach fel y y gwasanaethau dros nos o Prâg. Mae'r orsaf fysiau drws nesaf. Nodir amseroedd t trenau a'r bysiau fan hyn: Trafnidiaeth Cyhoeddus Slofacia.

Mae maes awyr Poprad-Tatry 5km i'r gorllewin o ganol dinas Poprad, gyda Wizz Air yn hedfan yno o Luton.

Mae Ryanair yn hedfan i Bratislava o Fryste a Luton. Neu Easyjet i Krakow, ond 130Kms i ffwrdd.

> Teithio
Argraffu