Ždiar
Un o emau Slofacia yw Ždiar. Mae'r pentref unigryw hwn wrth draed y Tatry Uchel yn gartref i tua 1300 o bobl ac yn gyforiog o draddodiadau, credoau gwerin a diwylliant. Mae eu pensaerniaeth, sydd wedi ei gadw'n ofalus, yn arbennig o ddiddorol gyda'r ffenestri trawiadol addurniedig a'r estyll glas, coch a gwyn rhwng y trawstiau pren yn creu golygfa liwgar iawn. Ystyrir yr ardal fel Ardal Gadwraeth at gyfer Pensaerniaeth Werin.
Mae'r tiroedd o gwmpas yn llawn planhigion ac anifeiliaid sydd dan fygythiad, ac yn rhan o Barc Cenedlaethol y Tatry (TANAP), Canolfan Gadwraeth Biosffer UNESCO y Tatry, Canolfan Gadwraeth Natur Goliášová, Canolfan Gadwraeth Natur Cenedlaethol Belianske a'r rhwydwaith ecolegol genedlaethol NECONET.
Saif Ždiar, sydd tua 32Km i'r gogledd o Boprad, tua 896m uwchben lefel y môr. Mae'n gorwedd mewn dyffryn gyda mynyddoedd Spišská Magura i'r gogledd, Tatry Belianske i'r de a'r gorllewin nid nepell at y ffin gyda gwlad Pwyl (13Km).
Ceir gwybodaeth bellach am y pentref ar:
www.zdiar.eu
neu
www.zdiar.sk