English Deutsch Slovensky Cymraeg

Cartref
D.S. NI FYDD Y TY AR LOG AM SBEL. DIOLCH YN FAWR I'N GWESTAI DROS Y FLYNNYDDOEDD!!

Slofacia - Sgïo, Ymlacio, Mwynhau yn Zrub Zuzana

Codwyd ein Zrub (tŷ pren Slofac traddodiadol) yn 1912 ond mae wedi ei adnewyddu yn ddiweddar i gynnwys adnoddau modern er ei fod yn dal yn Drysor Cenedlaethol Slofacia. Mae ynddo dipyn o le – gall gysgu 6 (+2) mewn amgylchedd naturiol hyfryd sy’n wynebu mynyddoedd Belianske Tatry (2,150m o uchder). Dyma guddfan ramantaidd ar gyfer pob tymor.

Saif Zrub Zuzana 930m uwch lefel y môr yn Ardal Gadwraeth i Bensaernïaeth Werin Antosovsky Vrch, uwchben pentref Zdiar. Mae’r safle dawel ar fryn agored yn gyrchfan hawdd ar gyfer cerddwyr. Gan fod y tŷ ar ymyl Parc Cenedlaethol y Tatry Uchel mae yma deimlad o fod wedi dianc rhag popeth. Mae’n lle delfrydol ar gyfer gwylio bywyd gwyllt; o bryd i’w gilydd gellir gweld ceirw ger y tŷ. 35km / 30 munud o Poprad a’r maes awyr. Gallwch weld y safle yma: Map Google

Mae cymeriad y gwaith pensaernïol a’r lleoliad tawel yn rhoi naws hynafol i’r lle, er bod yma adnoddau hollol fodern (ee teledu lloeren a wifi). Gall yr awyr fynyddig ffres gynnig cyfle am ddihangfa ramataidd neu fel canolfan awyr agored, i gwpwl neu i grwp teuluol, yn ôl eich dewis. Penderfynu beth i’w wneud fydd y dasg anoddaf: mynd allan i sgïo, seiclo, cerdded, pysgota, ymlacio mewn dwr mwynol neu eistedd i wylio’r newidiadau cyson yn y tirwedd. Mae’r pentref ei hun yn ddarlun o fywyd cefn gwlad traddodiadol, gyda cheffylau yn dal i drin y tir, i gynaeafu tatws neu fynd â chi am dro ar y sled yn yr eira! Gydol y flwyddyn mae yma rywbeth at ddant pawb.

Gorffennaf

Owners Direct holiday accommodation

Snow Forecast Rhagor o Dywydd & Chamerau i  Zdiar - Bachledova Dolina ar snow-forecast.com

> Cartref
Argraffu