Y Tŷ
Prif Ystafell Wely
Mae’r brif ystafell wely, sydd yn rhan orllewinol y ty, yn adlewyrchu ei hanes fel rhan o adeiladau’r fferm, gyda’r polion pren gwreiddiol yn tynnu sylw at y adeiladwaith gwreiddiol oedd yn defnyddio boncyffion crwn. Wedi ei ail-godi’n llwyr, mae yn yr ystafell bellach wely dwbwl mawr (160 x 200cm). Mae’r ystafell gadw ddillad ‘gerdded trwyddi’ yn arwain at y baddondy hynod gyfoes lle saif y baddon dau-ben gyda chawod drosodd, ban dwbwl a thŷ bach. Golygfeydd o’r mynyddoedd.
Ystafell Wely 2
Mae’r ystafell hon yn y tŷ gwreiddiol wedi ei dodrefnu mewn dull mwy traddodiadol gyda dau wely sengl ac, eto, golygfeydd o’r mynyddoedd. Mae yma gilfach gawod aml-jet, bwrdd ymolchi cyfoes a thŷ bach.
Ystafell Wely 3
Mae gan yr ystafell hon dau wely sengl ac, eto, golygfeydd o’r mynyddoedd.
Baddondy Teuluol
Ceir baddon modern gyda chawod, basn a thy bach yn y prif faddondy.
Cegin / Ystafell Fwyta
Yn y gegin ceir bwrdd Slofac traddodiadol gyda bainc a seddi ar gyfer 8 ac unedau modern mewn dull traddodiadol i gadw’r ffwrn, yr hob, yr oergell, y rhewgell a’r peiriant golchi llestri. Mae yma hefyd gyflenwad cyflawn o ffwrn meicrodon, tecell, tostiwr, llestri a gwydrau ac ati.
Lolfa
Prif ystafell wreiddiol yr hen dŷ: yn y lolfa fawr mae lle tân coed gyda wyneb gwydr i’r drws, seddi newydd cysurus a golygfeydd hynod hardd. Mae yma hefyd wely-soffa dwbwl, modern â lle i gysgu.
Mae’r ystafell adnoddau ger y cyntedd bach mae’r system wres canolog sy’n lle da ar gyfer sychu dillad wedi diwrnod o sgïo neu o gerdded ac ati.
Cynhwysir llieiniau a thywelion a thywelion i’w defnyddio yn y spa lleol. Bydd yr adeilad yn cael ei lanhau cyn ichi gyrraedd.
Gellir trefnu cadair uchel a gwely i faban os cawn ddigon o rybud.
Gallwch gyrraedd drws y ty mewn car o’r Gwanwyn i’r Hydref. Yn y Gaeaf gall cwymp o eira olygu eich bod yn gorfod cerdded 200m at y drws. Mae 2 ris yn arwain o lefel y fynedfa i lefel cyffredinol y ty. Fodd bynnag, oherwydd y gwenuthuriad traddodiadol o bren, mae rhai drysau uchel (200mm) a allai greu problemau i bobl mewn cadair olwyn.